Rydym yn gwella ein gwefan: Rydym yn gwneud gwelliannau i olwg a llywio ein gwefan er mwyn ei gwneud hi’n haws i chi ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai tudalennau’n edrych ychydig yn wahanol wrth i’r diweddariadau hyn gael eu gwneud.
Mae Pwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru (NWJCC) yn gyfrifol am gomisiynu Gwasanaethau Arbenigol yng Nghymru.
Mae rhestr o Feddyginiaethau a Gomisiynir yn Rheolaidd gan NWJCC ar gael yma: Rhestr Feddyginiaethau a Gomisiynir yn Rheolaidd
Byddwch yn ymwybodol nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr ar hyn o bryd, felly mae'r rhestr yn cael ei hadolygu a'i diweddaru'n barhaus i sicrhau ei bod yn adlewyrchu canllawiau clinigol a chyfrifoldebau comisiynu cyfredol.
Mae'n cynnwys manylion am y mecanwaith cymeradwyo, argymhellion cysylltiedig, statws ffurflen Blueteq® (lle bo'n berthnasol) a darparwyr (lle mae wedi'i gadarnhau).
Rydym wrthi'n datblygu fersiwn fwy rhyngweithiol a hawdd ei defnyddio o'r adnodd hwn, a fydd ar gael yn y dyfodol agos, ac sydd â galluoedd chwilio a hidlo gwell.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch meddyginiaethau a gomisiynir yn rheolaidd, cysylltwch â: NWJCC.Blueteq@wales.nhs.uk