Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad i'r wefan: Mae Polisïau Clinigol, Cyhoeddiadau ac Insight Hub bellach i'w gweld o dan Polisïau ac Adnoddau.
Mae cynnwys a oedd gynt o dan Gweithio Gyda Ni, gan gynnwys Dod yn Ddarparwr ac Ymgysylltu ac Ymgynghori, bellach i'w weld o dan Amdanom Ni.

Pwyllgorau

Mae Pwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru yn Bwyllgor ar y Cyd o'r saith Bwrdd Iechyd. Mae'n cynnwys Cadeirydd annibynnol, hyd at bum Aelod Lleyg, saith Prif Weithredwr y Byrddau Iechyd a'r Prif Gomisiynydd fel Aelod Cyswllt.

Rôl y Pwyllgor ar y Cyd yw :

  • Penderfynu ar strategaeth hirdymor ar gyfer comisiynu gwasanaethau a ddirprwywyd i'r JCC
  • Cynhyrchu Cynllun Tymor Canolig Integredig sy'n disgrifio sut y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu ar ran y Byrddau Iechyd Lleol drwy 'fwriadau comisiynu' clir sy'n llywio ac yn ategu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig (IMTPs) y Byrddau Iechyd Lleol
  • Wrth gomisiynu gwasanaethau, bydd y JCC yn gweithredu yn unol â Chyfarwyddiadau a Chynllun Dirprwyo'r byrddau iechyd a bydd, ar gyfer y swyddogaethau perthnasol:
    • Nodi a gwerthuso gwasanaethau a thriniaethau presennol, newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg a chynghori ar y ffordd y dylid darparu'r gwasanaethau hyn
    • Datblygu polisïau ar gyfer mynediad teg at wasanaethau gofal iechyd diogel a chynaliadwy o ansawdd uchel ledled Cymru ar gyfer y gwasanaethau hynny sy'n dod o fewn cwmpas y JCC
    • Penderfynu’n flynyddol ar y gwasanaethau y dylid eu comisiynu ar sail ranbarthol neu genedlaethol
    • Penderfynu ar y lefel briodol o gyllid ar gyfer comisiynu gwasanaethau cyfeiriedig a dirprwyedig ar lefel ranbarthol neu genedlaethol a phenderfynu ar gyfraniad pob Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer y gwasanaethau hynny (a fydd yn cynnwys costau rhedeg y Cyd-Gynghori a'r Tîm Comisiynu ar y Cyd) yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau penodol a osodir gan Weinidogion Cymru.
    • Sicrhau darpariaeth gwasanaethau a ddirprwywyd ar lefel ranbarthol a chenedlaethol gan gynnwys y rhai a ddarperir gan ddarparwyr y tu allan i Gymru
    • Sicrhau bod y JCC yn gweithredu o fewn fframwaith llywodraethu priodol.