Cyfarwyddwr Comisiynu ar gyfer Iechyd Meddwl Arbenigol, Anableddau Dysgu a Grwpiau Agored i Niwed
Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru
Cyfarwyddwr Comisiynu ar gyfer Iechyd Meddwl Arbenigol, Anableddau Dysgu a Grwpiau Agored i Niwed
Mae Shane Mills, RMN, BSc, MSc yn Gyfarwyddwr Clinigol. Dechreuodd gyrfa glinigol Shane bron i 20 mlynedd yn ôl, ar ôl cyfnod yn Lluoedd EM a gweithio yn UDA, pan hyfforddodd fel Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig ym Mhrifysgol Leeds.
Ers cymhwyso fel nyrs mae Shane wedi gweithio mewn rolau clinigol, rheolaethol a strategol yn Leeds, Manceinion a Chymru. Mae Shane wedi bod yn cefnogi datblygiad strwythurau comisiynu cydweithredol cenedlaethol i’w defnyddio gan GIG Cymru, yn ysgrifennu’r safonau clinigol a’r prosesau archwilio ysbytai ac yn chwarae rhan arweiniol wrth ddatblygu’r seilwaith ategol a’r system gwybodeg electronig.