Rydym yn gwella ein gwefan: Rydym yn gwneud gwelliannau i olwg a llywio ein gwefan er mwyn ei gwneud hi’n haws i chi ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai tudalennau’n edrych ychydig yn wahanol wrth i’r diweddariadau hyn gael eu gwneud.
Dylai cleifion sy’n ddifrifol wael ac sy’n oedolion dderbyn yr un safon uchel o ofal dwys waeth beth fo’u lleoliad – o ddechrau salwch neu anaf hyd at eu rhyddhau o’r Uned Gofal Dwys (ICU), gan gynnwys trosglwyddo o fewn ysbyty a rhwng ysbytai .
Nododd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru ar Ofal Critigol yr achos dros wella agweddau penodol ar wasanaethau gofal critigol yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu gwasanaeth trosglwyddo rhwng ysbytai ar gyfer cleifion sy’n ddifrifol wael sy’n oedolion.