Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-Frys (GCCDF)

Mae’r Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng (GCCDF) yn cludo pobl i ac o’r ysbyty pan nad yw’n argyfwng. Mae’r bobl sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Trafnidiaeth Di-argyfwng yn gleifion sy’n bodloni Meini Prawf Cymhwysedd Llywodraeth Cymru ac sy’n gymwys i gael eu cludo i’r ysbyty ar gyfer apwyntiadau mewn clinigau neu am driniaeth yn yr ysbyty.

Mae staff NEPTS yn cael llawer o hyfforddiant gan gynnwys: gofal cwsmeriaid, cymorth cyntaf, sgiliau gyrru arbenigol, symud a thrin cleifion a sgiliau achub bywyd sylfaenol ac yn defnyddio cerbydau wedi’u dylunio’n arbennig (gyda rampiau fel arfer) i sicrhau bod cleifion yn cael eu cludo’n ddiogel ac yn gyfforddus.