Dylai cleifion sy’n ddifrifol wael ac sy’n oedolion dderbyn yr un safon uchel o ofal dwys waeth beth fo’u lleoliad – o ddechrau salwch neu anaf hyd at eu rhyddhau o’r Uned Gofal Dwys (ICU), gan gynnwys trosglwyddo o fewn ysbyty a rhwng ysbytai .
Nododd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru ar Ofal Critigol yr achos dros wella agweddau penodol ar wasanaethau gofal critigol yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu gwasanaeth trosglwyddo rhwng ysbytai ar gyfer cleifion sy’n ddifrifol wael sy’n oedolion.
Nodau Gwasanaeth
- Sicrhau mynediad cyfartal i’r holl gleifion sy’n oedolion sy’n ddifrifol wael ac y mae angen eu trosglwyddo
- Symleiddio a chyflymu mynediad at lwybrau gofal arbenigol, penderfyniadau a chyngor arbenigol
- Hwyluso llif cleifion i bob cyfeiriad, gan gynnwys dychwelyd cleifion gofal critigol o fewn a rhwng Rhwydweithiau Gofal Critigol
- Cynnal y safonau uchaf o ofal critigol ar hyd taith y claf o’r atgyfeiriad cychwynnol i’r trosglwyddo yn yr ysbyty sy’n derbyn
- Hwyluso trosglwyddo y tu allan i rwydwaith ar gyfer triniaeth arbenigol neu gapasiti os na fydd y rhain ar gael o fewn y llwybrau atgyfeirio arferol.
- Sicrhau mynediad cyfartal i’r holl gleifion sy’n oedolion sy’n ddifrifol wael ac y mae angen eu trosglwyddo
- Symleiddio a chyflymu mynediad i lwybrau gofal arbenigol
- Hwyluso llif cleifion i bob cyfeiriad
- Cynnal y safonau uchaf o ofal critigol ar hyd taith y claf
- Hwyluso trosglwyddo y tu allan i rwydwaith ar gyfer triniaeth arbenigol neu gapasiti os na fydd y rhain ar gael o fewn y llwybrau atgyfeirio arferol.
Dogfennau:
Adolygiad Blynyddol GTGCO 2024 (Saesneg)