Neidio i'r prif gynnwy

Y Pwyllgor

Mae Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn Gydbwyllgor o’r saith Bwrdd Iechyd. Mae'n cynnwys Cadeirydd annibynnol, hyd at bum Aelod Lleyg, saith Prif Weithredwr y Byrddau Iechyd a'r Prif Gomisiynydd fel Aelod Cyswllt.

Rôl y Cyd-bwyllgor yw :

  • Pennu strategaeth hirdymor ar gyfer comisiynu gwasanaethau a ddirprwyir i'r JCC
  • Cynhyrchu Cynllun Tymor Canolig Integredig sy'n disgrifio sut y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu ar ran Byrddau Iechyd Lleol trwy 'fwriadau comisiynu' clir sy'n llywio ac yn ategu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig (IMTPs) y BILl.
  • Wrth gomisiynu gwasanaethau, bydd y JCC yn gweithredu yn unol â Chyfarwyddiadau a Chynllun Dirprwyo’r byrddau iechyd a bydd, ar gyfer y swyddogaethau perthnasol:
    • Nodi a gwerthuso gwasanaethau a thriniaethau presennol, newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg a chynghori ar y ffordd y dylid darparu'r gwasanaethau hyn
    • Datblygu polisïau ar gyfer mynediad teg at wasanaethau gofal iechyd diogel a chynaliadwy o ansawdd uchel ledled Cymru ar gyfer y gwasanaethau hynny sydd o fewn cwmpas y JCC
    • Pennu'n flynyddol y gwasanaethau hynny y dylid eu comisiynu ar sail ranbarthol neu genedlaethol
    • Pennu’r lefel briodol o gyllid ar gyfer comisiynu gwasanaethau dan gyfarwyddyd a gwasanaethau dirprwyedig ar lefel ranbarthol neu genedlaethol a phennu’r cyfraniad gan bob BILl ar gyfer y gwasanaethau hynny (a fydd yn cynnwys costau rhedeg y JCC a’r Tîm Comisiynu ar y Cyd) yn unol ag unrhyw cyfarwyddiadau penodol a bennir gan Weinidogion Cymru
    • Sicrhau darpariaeth gwasanaethau a ddirprwyir ar lefel ranbarthol a chenedlaethol gan gynnwys y rhai sydd i’w darparu gan ddarparwyr y tu allan i Gymru
    • Sicrhau bod y JCC yn gweithredu o fewn fframwaith llywodraethu priodol.