Neidio i'r prif gynnwy
Abigail Harris

Prif Gomisiynydd Dros Dro

Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru

Amdanaf i

Prif Gomisiynydd Dros Dro

Ymunodd Abigail â’r Cydbwyllgor Comisiynu ym mis Ebrill 2024 o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro lle bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio Strategol. Cyn hyn roedd yn Gyfarwyddwr Strategaeth, Arloesedd a Gofal Sylfaenol Llywodraeth Cymru yn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Treuliodd bedair blynedd mewn llywodraeth leol fel cyfarwyddwr gyda chyfrifoldeb am wasanaethau cymdeithasol, hamdden, llyfrgell, y celfyddydau a gwasanaethau dysgu oedolion. Cyn y fenter i lywodraeth leol, treuliodd Abigail 17 mlynedd mewn uwch swyddi yn y GIG ar draws de Cymru, yn ddiweddarach fel Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd Lleol ym Mro Morgannwg.

Mae gan Abigail radd meistr mewn gofal integredig ac mae'n angerddol am ddarparu gwell gofal trwy gydweithio â'n partneriaid.