Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Mae'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC) wedi paratoi'r Cwestiynau Cyffredin canlynol fel rhan o'r broses ymgysylltu ffurfiol sy'n ceisio barn ar ddyfodol lleoliadau canolfannau awyr ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans awyr a ddarperir mewn partneriaeth rhwng Ambiwlans Awyr Cymru (Elusen) a'r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (GIG Cymru).

Wedi'i gynllunio ar gyfer y cyhoedd, staff a rhanddeiliaid, mae'r ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon yn egluro:

  • Sut mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth;
  • Pam mae angen y broses ymgysylltu;
  • Manylion ynghylch sut mae'r broses ymgysylltu ffurfiol a'r broses gwneud penderfyniadau yn digwydd.

Os oes gennych ymholiadau nad yw'r ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon yn eu hateb ar hyn o bryd, cysylltwch â ni drwy'r ffurflen ymholiadau a geir yma

Noder bod agendâu'r cyfarfodydd, papurau, dolenni darlledu a recordiadau ar gael ar wefan y Pwyllgor Comisiynu ar y Cyd: Dyddiadau a Phapurau Cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Comisiynu