Neidio i'r prif gynnwy

CAOYA

System Gyffuriau Cost Uchel Blueteq ar gyfer GIG Cymru: Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

 

Pam defnyddio system Cyffuriau Cost Uchel Blueteq (HCD) yn GIG Cymru?

Mae Blueteq HCD yn system feddalwedd ar y we sydd wedi’i dylunio i wella llywodraethu ariannol meddyginiaethau cost uchel a sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau clinigol cenedlaethol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG). .

Mae Blueteq HCD eisoes yn cael ei ddefnyddio'n eang ledled GIG Lloegr. Mae’r system yn rhoi proses safonedig i GIG Cymru i leihau amrywiadau mewn mynediad at feddyginiaethau ar draws byrddau iechyd, gyda chyfleoedd i gofnodi setiau data lluosog megis demograffeg sylfaenol, canlyniadau clinigol a nodweddion cleifion.

Cyflwynwyd Blueteq ar draws GIG Cymru ar gyfer cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru (CBCGC) a elwid gynt yn Feddyginiaethau a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (BGIAC) ym mis Ebrill 2021. Mae NWJCC yn rheoli’r broses o gyflwyno’r holl gyffuriau HCD y mae’n eu comisiynu. Dechreuodd y gwaith o gyflwyno’r HCDs sy’n weddill mewn gofal eilaidd a sylfaenol ym mis Ebrill 2023 yn unol â WHC 2022 032 (Mawrth 2023) ac mae’n cael ei arwain gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) sy’n cefnogi AWMSG a’i is-grwpiau.


Sut mae Blueteq HCD o fudd i glinigwyr?

Mae Blueteq HCD yn rhoi cymeradwyaeth gyflym ar gyfer mynediad cleifion at driniaeth, a manteision a chynllunio data penodol manwl. Mae'r data clinigol sydd ar gael yn Blueteq HCD yn helpu i lywio gofynion gwasanaeth mewn gweithgarwch rhagweld, cynllunio a gweithredu ar gyfer meddyginiaethau newydd a gymeradwyir gan NICE ac AWMSG neu a argymhellir gan broses Meddyginiaethau Cymru'n Un.


A yw’r meini prawf triniaeth ar gyfer ffurflen gymeradwyo yn GIG Cymru yr un fath ag yn GIG Lloegr?

Mae’r ffurflenni a ddefnyddir yn GIG Cymru yn dilyn meini prawf NICE ac AWMSG, gydag ychwanegiadau posibl ar gyfer adrodd pan fo hynny’n berthnasol.


Sut byddaf yn gwybod pan fydd meddyginiaeth ar Blueteq HCD?

Bydd PGIAC yn cyhoeddi rhestr o ffurflenni cymeradwyo meddyginiaethau sydd ar gael ar system HCD Blueteq GIG Cymru. Bydd SSC CBCGC yn diweddaru'r rhestr hon yn rheolaidd. Bydd y rhestr ar gael ar wefan Blueteq CBCGC


A fydd modd gwrthod mynediad i feddyginiaeth neu driniaeth i gleifion yn GIG Cymru os nad oes ffurflen ar gael ar Blueteq HCD?

Cyn bod ffurflen gymeradwyo ar gael, bydd cleifion yn gallu derbyn meddyginiaeth neu driniaeth os yw'n briodol i'w cyflwr. Byddai hyn yn mynd drwy'r broses Cymeradwyo Ariannu Ymlaen Llaw (safle allanol). Unwaith y bydd y ffurflenni cymeradwyo ar gael, disgwylir y bydd ffurflen yn cael ei chwblhau wrth ddechrau triniaeth.


Pa mor hir mae'n ei gymryd i lenwi ffurflen cychwyn triniaeth?

Yr amser cyfartalog i lenwi ffurflen cychwyn triniaeth yw tua 5 i 10 munud. Bydd yr amser a gymerir yn dibynnu ar brofiad rhywun o ddefnyddio Blueteq HCD a'r math o driniaeth dan sylw. Gall maint y manylion sydd eu hangen i lenwi'r ffurflen amrywio'n sylweddol.


Pa mor hir y bydd yn rhaid i mi aros am gymeradwyaeth i driniaeth?

Lle bynnag y bo modd, mae ffurflenni wedi'u cynllunio i ganiatáu cymeradwyaeth neu wrthod awtomatig, fel y bydd ymateb yn cael ei dderbyn ar unwaith ar ôl cyflwyno'r ffurflen.

Mae Blueteq HCD yn cadw hanes pob cais, gan gynnwys yr holl ohebiaeth gysylltiedig.


Beth os nad yw claf yn bodloni'r holl feini prawf ond fy mod yn dal eisiau iddo dderbyn triniaeth?

Bydd y bwrdd iechyd, a’r tîm amlddisgyblaethol, yn arwain clinigwyr ar ba lwybr i’w ddilyn er mwyn i’w cais am driniaeth gael ei ystyried; er enghraifft, Cais Cyllido Cleifion Unigol (CCCU).


A fydd angen i mi lenwi ffurflen gymeradwyo bob tro y byddaf yn rhagnodi meddyginiaeth?

Na, dim ond ar ddechrau'r driniaeth y mae angen i chi lenwi ffurflen gymeradwyo ar gyfer eich claf, ac weithiau er mwyn parhau â'r driniaeth, pan fo canllawiau cenedlaethol yn mynnu adolygiad.


Beth yw'r gwahaniaeth rhwng ffurflen cychwyn triniaeth a ffurflen parhad?

Mae ffurflen cychwyn triniaeth yn cael ei llenwi cyn dechrau triniaeth, er mwyn cael cymeradwyaeth. Dim ond ar gyfer rhai meddyginiaethau penodol y bydd angen ffurflen parhad triniaeth lle mae canllawiau yn argymell adolygiad ar bwynt(au) penodol i fodloni meini prawf i barhau â thriniaeth.


Sut bydd y data a gesglir trwy Blueteq HCD yn cael ei ddefnyddio?

Mae NWJCC a Byrddau Iechyd yng Nghymru yn gallu defnyddio data Blueteq HCD i gefnogi rheolaeth glinigol ac ariannol ar ragnodi meddyginiaethau cost uchel. Bydd y data yn rhoi sicrwydd bod meddyginiaeth cost uchel ar gael i gleifion sy'n bodloni'r meini prawf cenedlaethol ar gyfer triniaeth.


Pwy fydd â mynediad at y data a gesglir trwy Blueteq HCD?

Bydd gan holl ddefnyddwyr Blueteq HCD GIG Cymru fynediad at eu data perthnasol eu hunain o fewn y system, sy'n cynnig cymorth da ar gyfer archwiliadau a chynllunio clinigol.


A oes angen ail fewngofnodi ar system HCD Blueteq GIG Cymru ar ddarparwyr sydd eisoes yn defnyddio Blueteq HCD yn GIG Lloegr, i lenwi ceisiadau am gyllid ar gyfer cleifion yng Nghymru?

Ydy, mae NHSE a CBCGC yn ddwy system ar wahân felly er mwyn i ddefnyddiwr gael mynediad i'r ddwy system byddai angen cyfrif ar gyfer pob system ac felly dau fewngofnod.


Sut mae ffurflenni Blueteq HCD yn cael eu creu ar gyfer meddyginiaeth?

Mae ffurflenni HCD Blueteq yn cael eu creu o’r newydd ar gyfer GIG Cymru neu eu haddasu o dempled cyfredol GIG Lloegr os yw ar gael ac yn briodol.

Defnyddir meini prawf triniaeth y manylir arnynt mewn canllawiau cenedlaethol, megis canllawiau NICE ac AWMSG, i ddatblygu'r ffurflenni. Gellir ychwanegu meini prawf ychwanegol os yn briodol.

Ymgynghorir â'r arbenigeddau clinigol perthnasol yn GIG Cymru ar y ffurflenni a grëir, cyn iddynt gael eu cwblhau a'u lanlwytho i'r system


A oes canllaw defnyddiwr Blueteq HCD?

Ydy, mae Blueteq HCD yn darparu canllaw defnyddiwr cynhwysfawr ar gyfer pob agwedd ar y system HCD. Mae’r canllaw ar gael ar wefan AWTTC (Safle allanol).

Mae hyfforddiant defnyddwyr Blueteq HCD hefyd ar gael gan Blueteq. Cysylltwch â thîm cymorth Blueteq ar trust@blueteq.co.uk .


 phwy y dylwn gysylltu os oes gennyf ymholiad ynglŷn â llenwi ffurflen, neu eisiau awgrymu gwelliant iddi?

Cysylltwch â Blueteq ar gyfer sefydlu defnyddiwr newydd neu i gael hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r system (am ddim) yn naill ai trust@blueteq.co.uk neu whssc@blueteq.co.uk


 phwy y dylwn gysylltu os oes gennyf broblemau technegol gyda Blueteq HCD?

Cysylltwch â thîm cymorth Blueteq ar trust@blueteq.co.uk   os oes gennych unrhyw broblemau technegol gyda Blueteq.