Cyfarwyddwr Meddygol
Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru
Cyfarwyddwr Meddygol
Iolo yw Cyfarwyddwr Meddygol y NWJCC, ar ôl bod yn rhan o dîm Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru ers 2018.
Ef oedd y pediatregydd anadlol arbenigol cyntaf i gael ei benodi yng Nghymru a sefydlodd wasanaeth anadlol pediatrig arbenigol ar gyfer De a Chanolbarth Cymru yn Ysbyty Plant Cymru, gan gynnwys canolfan ffibrosis systig pediatrig, gwasanaeth asthma difrifol arbenigol, gwasanaeth broncosgopi hyblyg a gwasanaeth cysgu ac awyru hirdymor.
Mae Iolo wedi bod yn gynghorydd arbenigol i'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ac i'r awdurdod Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Yn flaenorol, bu'n Swyddog Cymru yng Ngholeg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH), yn Llywydd Cymdeithas Bediatreg Cymru ac yn Llywydd Cymdeithas Anadlol Bediatreg Prydain.
Ef yw Cadeirydd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a Grŵp Gweithredu Clefydau Prin Cymru (RDIG). Mae Iolo wedi bod yn ymwneud yn weithredol â moeseg ymchwil ers dros 20 mlynedd ac mae'n Gadeirydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil Cymru 2. Mae ganddo bortffolio cyhoeddiadau ymchwil helaeth a dyfarnwyd Cadair Anrhydeddus iddo gan Brifysgol Caerdydd.
Mae Iolo yn siaradwr Cymraeg rhugl ac mae wedi byw a gweithio yng Nghymru drwy gydol ei yrfa.