Neidio i'r prif gynnwy
Stacey Taylor

Prif Gomisiynydd (Interim)

Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru

Amdanaf i

Prif Gomisiynydd (Interim)

Stacey yw Cyfarwyddwr Cyllid a Gwybodaeth a Phrif Gomisiynydd Dros Dro CGCGC. Ymunodd ym mis Hydref 2023, gan ddod o’i rolau blaenorol gyda Phwyllgorau Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru a Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Trosglwyddodd Stacey i’r rolau hyn o Gyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol Gweithrediaeth y GIG, corff cenedlaethol a sefydlwyd ym mis Ionawr 2018 i ysgogi arferion gorau mewn rheolaeth ariannol, gwybodaeth ariannol strategol, Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, a gwelliant ariannol ledled GIG Cymru.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad mewn cyfrifeg a chyllid, dechreuodd Stacey ei gyrfa mewn practis preifat bach. Ers hynny mae hi wedi dal rolau amrywiol ar draws y sector economaidd, Llywodraeth Cymru, a’r sector iechyd. A hithau’n gyfrifydd cymwys, mae’n arbennig o falch o fod wedi cwblhau ei chymwysterau trwy brentisiaeth ac mae’n eiriolwr cryf dros ddysgu yn y gweithle.

Mae Stacey yn mwynhau gweithio o fewn sefydliadau cenedlaethol, yn enwedig wrth ddatblygu strategaethau ariannol sy'n integreiddio dadansoddeg data ar sail tystiolaeth, gwyddor data, a chyllid.

Mae Stacey yn byw ar fferm yng Nghymoedd De Cymru gyda'i gŵr a'i dwy ferch.