Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau MWY DIOGEL

Mae’r ddogfen ganllaw SAFER isod yn darparu canllaw arfer da i hyrwyddo rhyddhau diogel ac amserol, gwella llif cleifion ac atal aros diangen i gleifion, trwy set gyfunol o reolau syml ar gyfer wardiau cleifion mewnol oedolion. Dylai cynllunio ar gyfer rhyddhau'n brydlon ddechrau ar dderbyniad, lle bynnag y bo modd, a chynnwys cleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr o'r cychwyn cyntaf – gan ei wneud yn fusnes i bawb.

Ni all ymarferwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain gyflawni’r canlyniadau a nodir yn y canllawiau hyn. Caiff y canlyniadau gorau eu cyflawni pan fydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai, sefydliadau statudol a thrydydd sector ehangach yn gweithio mewn partneriaeth ac yn cynnig ymagwedd integredig yng nghyd-destun ehangach yr hyn y gall iechyd a gofal cymdeithasol ei wneud gyda’i gilydd.”