Daeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) i rym ar 1 Ionawr 2005, gan nodi newid sylweddol mewn polisi gweinyddiaeth gyhoeddus o ddiwylliant o gyfrinachedd i ddiwylliant o fod yn agored ac yn atebol.
O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae gan y cyhoedd hawl cyffredinol i gael mynediad at wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus, megis Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, yn amodol ar rai eithriadau cyfyngedig. Am ragor o fanylion, gallwch weld testun llawn y Ddeddf yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 .
Os hoffech wneud cais am wybodaeth ysgrifennwch atom yn:
Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru
Cais Rhyddid Gwybodaeth
Gwasanaethau Corfforaethol
Uned G1, The Willowford
Main Avenue, Stad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd, CF37 5YL
neu e-bostiwch: nwjcc@wales.nhs.uk