Gwasanaethau Ambiwlans a 111, sy’n arwain yr ymdrechion comisiynu i sicrhau mynediad at wasanaethau gofal o ansawdd uchel ledled Cymru.
Mae ein portffolio comisiynu yn cwmpasu ystod eang o wasanaethau hanfodol, gan gynnwys Gwasanaethau Ambiwlans Brys a Di-Frys, Gwasanaethau Ambiwlans Awyr, gwasanaethau GIG 111 Cymru, Rhwydwaith Cyflawni Gweithredol y Rhwydwaith Trawma Mawr a Rhwydwaith Cyflawni Gweithredol yr Asgwrn Cefn.
Rydym yn gweithio i optimeiddio’r ddarpariaeth o wasanaethau trawma mawr a gofal asgwrn cefn, gan sicrhau bod unigolion yn cael triniaeth amserol a phriodol ar gyfer eu hanafiadau. Yn ogystal â thrawma mawr a gofal asgwrn cefn, rydym yn goruchwylio Gwasanaethau Ambiwlans Brys a'r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), gan sicrhau ymateb cyflym a chludiant i unigolion sydd angen sylw meddygol brys. Rydym hefyd yn comisiynu’r Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-Frys (NEPTS), sy’n hwyluso cludiant diogel a dibynadwy i gleifion sydd angen gofal meddygol nad yw’n frys neu gymorth symudedd.
Fel rhan o'n hymrwymiad i wella gofal brys, rydym yn arwain mentrau fel y Rhaglen Chwe Nod, sy'n anelu at wella mynediad, ansawdd a diogelwch yn y gwasanaethau brys. Rydym hefyd yn goruchwylio comisiynu gwasanaethau 111, gan ddarparu pwynt cyswllt hanfodol i unigolion sy'n ceisio cyngor a chymorth meddygol brys.
Ymhellach, rydym yn sicrhau mynediad i wasanaethau arbenigol ar gyfer goroeswyr ymosodiad rhywiol trwy gomisiynu Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs). Mae'r canolfannau hyn yn darparu gofal a chymorth cynhwysfawr i unigolion sydd wedi profi trais rhywiol, gan gynnwys gofal meddygol, archwiliad fforensig, a chymorth emosiynol.
Dogfennau:
Llwybr Gofal Ambiwlans a Model CAREMORE ar gyfer Comisiynu Cydweithredol (Saesneg)
Fframwaith ar gyfer Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru Cwestiynau Cyffredin (Saesneg)