Neidio i'r prif gynnwy

GIG 111 Cymru

GIG 111 Cymru yw’r ffordd rad ac am ddim i gysylltu â’r GIG yng Nghymru o linellau tir a ffonau symudol.

Mae gwasanaeth 111 ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a gallwch ei ddefnyddio ar gyfer gwybodaeth a chyngor iechyd ac i gael mynediad at ofal sylfaenol brys.

Os ydych yn byw yng Nghymru ger y ffin â Lloegr, ac yn ffonio 111, efallai y gofynnir i chi ddewis y gwasanaeth yr hoffech gysylltu ag ef: Cymru neu Loegr. Dewiswch GIG 111 Cymru a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth a'r cyngor iechyd yr ydych yn eu ceisio. Os ydych chi'n byw yng Nghymru a'ch bod wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr, efallai y bydd amgylchiadau pan fydd GIG 111 Cymru yn eich cyfeirio at wasanaeth yn Lloegr os mai dyma'r gwasanaeth iawn i chi.

Os ydych yn byw yn Lloegr ger y ffin â Chymru ac yn ffonio 111, efallai y gofynnir i chi ddewis y gwasanaeth yr hoffech gysylltu ag ef: Cymru neu Loegr. Dewiswch GIG 111 Lloegr a byddant yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth a'r cyngor iechyd yr ydych yn eu ceisio. Os ydych yn byw yn Lloegr a'ch bod wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru, efallai y bydd amgylchiadau pan fydd GIG 111 Lloegr yn eich cyfeirio at wasanaeth yng Nghymru os mai dyma'r gwasanaeth iawn i chi.