Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS)

Mae Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) Cymru yn fenter arloesol yng Nghymru, sy’n cynnig gwasanaethau gofal critigol cyn-ysbyty dan arweiniad Ymgynghorwyr ac Ymarferwyr Gofal Critigol. Mae EMRTS Cymru, a lansiwyd ym mis Ebrill 2015, yn ymdrech ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru a GIG Cymru .

Mae EMRTS Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gofal critigol amserol ac arbenigol i unigolion ledled Cymru, gan bontio’r bwlch rhwng gofal yn yr ysbyty a chymorth meddygol brys yn y maes.

Mae gwasanaethau yn cynnwys:

  • Gofal Critigol a Arweinir gan Ymgynghorwyr: mae gweithwyr meddygol proffesiynol profiadol, gan gynnwys meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol, yn darparu ymyriadau meddygol uwch yn lleoliad argyfyngau.
  • Trosglwyddo Cyflym: sicrhau bod cleifion yn cael eu trosglwyddo'n gyflym ac yn ddi-dor i gyfleusterau meddygol priodol, gan wneud y gorau o'u siawns o wella.
  • Partneriaethau Cydweithredol: yn gweithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru a GIG Cymru i sicrhau’r safonau uchaf o ofal a hygyrchedd i bob claf.

 

Dogfennau:

GCTMB 2024 Blwyddyn mewm Adolygiad (Saesneg)

Bwriadau Comisiynu GCTMB 2023-24 (Saesneg)

Bwriadau Comisiynu GCTMB 2022-23 (Saesneg)

Gwerthusiad Gwasanaeth GCTMB 2021 (Saesneg)