Derbyniwyd y Cynnig Datblygu Gwasanaeth EMRTS manwl gan EASC ar 8 Tachwedd. Gofynnodd Aelodau EASC am i graffu pellach ddigwydd mewn nifer o feysydd gwasanaeth allweddol. Mae proses graffu ddiduedd a gwrthrychol yn cael ei harwain gan Brif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans a'r tîm. Bydd hyn yn annibynnol ar y rhagdybiaethau a'r modelu sydd wedi'u cynnwys yn y cynnig, dyma'r “ Adolygiad Gwasanaeth EMRTS ”.
Y bwriad yw y bydd y dull o gynnal dadansoddiad o’r newydd a chynnal ymgysylltiad cyhoeddus ffurfiol yn ein galluogi i ddeall barn a phryderon rhanddeiliaid, cytuno ar y rheolau i’w dilyn wrth ddatblygu opsiynau a chytuno ar yr hyn sy’n bwysig wrth gymharu gwahanol opsiynau fel rhan o broses agored, dryloyw a chadarn. Y broses yw archwilio a gwneud y mwyaf o’r gweithgaredd ychwanegol y gellid ei gyflawni o’r canolfannau presennol ac archwilio opsiynau i ailgyflunio’r gwasanaeth.
Fe wnaethon ni weithio gydag arweinwyr ymgysylltu, cyfathrebu a newid gwasanaethau byrddau iechyd a chyda chydweithwyr yng Nghyngor Iechyd Cymuned (Llais bellach) i ddatblygu a chytuno ar ddeunyddiau ymgysylltu priodol gan gynnwys amserlen ymgysylltu .
Yn dilyn 14 wythnos o ymgysylltu â'r cyhoedd, mae cam cyntaf yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) - ynghylch sut i wella ymhellach y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru a ddarperir mewn partneriaeth - wedi dod i ben.
Mae'r ymgysylltu cyhoeddus Cymru gyfan, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2023, wedi canolbwyntio ar wrando ar sylwadau, ymholiadau a chasglu adborth ar sut i ddatblygu opsiynau i wella'r gwasanaeth ambiwlans awyr ymhellach yng Nghymru.
Darperir y gwasanaeth ambiwlans awyr mewn partneriaeth rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS sy'n rhan o GIG Cymru.
Fel rhan o'r dull ymgysylltu cyffredinol ledled Cymru, parhaodd y Comisiynydd i gyfarfod ag amrywiol randdeiliaid gan gynnwys cynrychiolwyr etholedig ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, ac arweinwyr grwpiau cymunedol drwy gydol y broses, yn ogystal â defnyddio'r llwybrau llywodraethu sefydledig, megis Grwpiau Cyfeirio Rhanddeiliaid Byrddau Iechyd.
Yn dilyn Cyfnod 1, rhannwyd y gwaith i ddatblygu ystod o opsiynau - pob un wedi'i lywio gan adborth Cyfnod 1 yn ogystal â modelu data cyflenwol - gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid i gael sylwadau mewn ail gyfnod o ymgysylltu.
Cynhaliwyd Cam 2 o'r ymgysylltu cyhoeddus yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd 2023. Mae gwaith wedi bod ar y gweill i asesu'r opsiynau a ddatblygwyd trwy broses asesu opsiynau, gan ddefnyddio'r fframwaith gwerthuso y cytunwyd arno.
Unwaith y cafodd yr opsiynau eu llunio ar y rhestr fer, aeth y Comisiynydd yn ôl allan i'r cyhoedd fel Cyfnod 3 (o 01-29 Chwefror 2024) i gael sylwadau. Helpodd hyn y Comisiynydd i lunio Opsiwn argymelledig, sydd wedyn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Comisiynu ar y Cyd (a ddisodlodd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys [EASC]) ym mis Ebrill 2024.
Mae manylion a phapurau cyfarfod y Pwyllgor, yn ogystal â dolen darlledu/recordio, i'w gweld yma: Dyddiadau a Phapurau Cyfarfodydd y JCC
Mae penderfyniad bellach wedi'i wneud gan Bwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru; gwyliwch y Recordiad Ar-lein neu darllenwch y Briff Ôl-gyfarfod .