O fewn ein portffolio, rydym yn blaenoriaethu darparu Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapiwtig Uwch (ATMPs), gan sicrhau bod cleifion yn gallu cael mynediad at driniaethau blaengar sydd wedi'u teilwra i'w cyflyrau unigryw. Mae ein ffocws ar wasanaethau Lymffoma yn cynnwys comisiynu ymyriadau diagnostig a therapiwtig cynhwysfawr, gan gynnwys profion genetig a thriniaethau penodol fel therapïau BMT a CAR-T.
Rydym yn comisiynu gwasanaethau Genomig yn strategol i ddefnyddio mewnwelediadau genetig ar gyfer dulliau trin personol, gan wneud y gorau o ganlyniadau cleifion. Gan gydweithio â darparwyr blaenllaw, rydym yn comisiynu agweddau penodol ar lawdriniaeth canser yr afu (yn gyfyngedig i Dde Cymru), tîm amlddisgyblaethol Carsinoma Hepatogellog, abladiad yr afu, therapi ymbelydredd mewnol dethol (SIRT), a radiotherapi corff abladol stereotactig (SABR).
Mae ein rôl mewn imiwnoleg yn canolbwyntio'n benodol ar reoli diffyg imiwnedd sylfaenol, gan hyrwyddo mynediad at ofal a therapïau arbenigol.
Rydym yn sicrhau bod gwasanaethau PET a PBT o’r radd flaenaf ar gael ar wahân, gan hwyluso therapïau delweddu ac ymbelydredd manwl gywir ar gyfer cleifion canser.
Mae ein hymdrechion comisiynu yn ymestyn i drin Sarcoma a Llawfeddygaeth Thorasig, gan ddarparu gofal amlddisgyblaethol ar gyfer malaeneddau cymhleth a chyflyrau thorasig.
Fel stiwardiaid comisiynu gofal iechyd, cawn ein harwain gan ymrwymiad i ragoriaeth, tegwch ac arloesedd. Rydym yn ymdrechu i optimeiddio darpariaeth a chanlyniadau gofal iechyd trwy bartneriaethau strategol, arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a mentrau gwella ansawdd parhaus.