Neidio i'r prif gynnwy

Ffurflenni Rhagnodedig

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsyniad i Driniaeth) (Cymru) 2008 yw'r prif reoliadau sy'n ymdrin ag arfer pwerau gorfodol mewn perthynas â phersonau sy'n agored i gael eu cadw mewn ysbyty neu o dan warcheidiaeth, ynghyd â chleifion cymunedol, dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Mae’r Rheoliadau’n rhagnodi’r ffurfiau sydd i’w defnyddio wrth arfer pwerau o dan y Ddeddf, ac mae’r rhain wedi’u nodi yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau. Daeth y Rheoliadau hyn (a’r ffurflenni rhagnodedig) i rym ar 3 Tachwedd 2008.

Mae Cod Ymarfer Deddf Iechyd Meddwl Cymru 2016 {saesneg} yn nodi canllawiau o dan Bennod 4 ar y wybodaeth y mae’n rhaid ei rhoi i gleifion a’u perthnasau agosaf a’u hesbonio iddynt.

Ar 2 Mehefin 2012, daeth Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsyniad i Driniaeth) (Cymru) (Diwygio) 2012 i rym. Diwygiwyd y ffurflenni canlynol CO7, HO15, CP1, CP5, TC8 a chyflwynwyd Ffurflen C08 newydd.

Sylwer: Dylid argraffu'r ffurflenni hyn ar bapur pinc. Argymhellir eich bod yn dewis "crebachu i ardal argraffadwy" yn eich opsiynau argraffu ar gyfer eich argraffydd. Sgroliwch i lawr rhestr wedi'i rhannu i'w categorïau unigol