Neidio i'r prif gynnwy
Shane Mills

Cyfarwyddwr Comisiynu ar gyfer Iechyd Meddwl Arbenigol, Anableddau Dysgu a Grwpiau Agored i Niwed (Dros Dro)

Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Comisiynu ar gyfer Iechyd Meddwl Arbenigol, Anableddau Dysgu a Grwpiau Agored i Niwed (Dros Dro)

Cymerodd Adrian Clarke rôl Cyfarwyddwr Comisiynu ar gyfer Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Grwpiau Agored i Niwed (Dros Dro) ym mis Mai 2025 ar ôl dal swydd Dirprwy Gyfarwyddwr ers 2021 gyda'r NWJCC, ar ôl helpu i sefydlu'r sefydliad rhagflaenol - yr Uned Gomisiynu Gydweithredol Genedlaethol yn 2012.

Yn Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig ers dros 30 mlynedd gyda MSc mewn Iechyd a rheolaeth y Sector Cyhoeddus, mae Adrian wedi gweithio mewn meysydd fel gofal acíwt, ymyrraeth argyfwng, a gofal iechyd parhaus cyn symud i'r maes comisiynu.

Mae Adrian wedi chwarae rhan allweddol wrth gyflawni llawer o fentrau ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu yn GIG Cymru, gan gynnwys datblygu a gweithredu Fframweithiau Ysbytai a Chartrefi Gofal Cenedlaethol, cynnal adolygiadau cenedlaethol o wasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu arbenigol a chefnogi rhaglen Dyfodol Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru/y Pwyllgor Comisiynu ar y Cyd.

Mae Adrian wedi ymrwymo i sicrhau bod cleifion a thrigolion Cymru sy'n derbyn triniaeth a gofal mewn gwasanaethau a gomisiynir yn allanol yn gwneud hynny gyda darparwyr sy'n ddiogel, yn effeithiol, ac yn darparu gwerth am arian i'r system.

Mae Adrian yn briod gyda dwy ferch ac ŵyr. Mae'n golffiwr brwd ac yn gefnogwr Arsenal.