Cyfarwyddwr Nyrsio a Sicrhau Ansawdd
Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru
Cyfarwyddwr Nyrsio a Sicrhau Ansawdd
Daw Carole â mwy na 40 mlynedd o wasanaeth ac arbenigedd y GIG i’w rôl fel Cyfarwyddwr Nyrsio ac Ansawdd y Cydbwyllgor Comisiynu.
Ymunodd â’r sefydliad rhagflaenol yn 2016 ac mae’n Nyrs a Bydwraig gofrestredig gyda dwy Wobr Genedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Ymarfer Bydwreigiaeth. Mae gan Carole hefyd radd Meistr mewn Rheoli Gofal Iechyd ac mae wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaethau Merched a Phlant o fewn Bwrdd Iechyd yn flaenorol.
Fel Cyfarwyddwr Nyrsio ac Ansawdd yn y NWJCC, mae Carole yn darparu arweinyddiaeth broffesiynol, glinigol a strategol i sicrhau bod y Pwyllgor yn cyflawni ei Ddyletswydd Ansawdd, gan gomisiynu gwasanaethau cleifion o ansawdd uchel. Mae hi'n ymroddedig i ysgogi gwelliannau ansawdd ac mae'n angerddol am yr effaith gadarnhaol y gall NWJCC ei chael ar ddarparu gwasanaethau i bobl Cymru.
Yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae Carole yn byw yn Abertawe, lle mae'n mwynhau golffio a threulio amser gyda'i hwyrion a'i hwyresau. Mae hi hefyd yn weithgar yn codi arian ar gyfer yr elusen Born on the Edge ac wedi arwain prosiect yn llwyddiannus i adeiladu uned famolaeth yn Katchumbala, Uganda.