Cyfarwyddwr Cynllunio a Strategaeth Corfforaethol (Dros Dro)
Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru
Cyfarwyddwr Cynllunio a Strategaeth Corfforaethol (Dros Dro)
Mae Georgina Galletly wedi bod yn Gyfarwyddwr Trawsnewid yn y NWJCC ers mis Gorffennaf 2024.
Mae George yn cefnogi'r Pwyllgor, y Prif Gomisiynydd, a'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i gwblhau camau gweithredu'r cynllun pontio a'r trawsnewid i sefydlu'r NWJCC yn llawn fel canolfan ragoriaeth ar gyfer comisiynu yng Nghymru.
Ymunodd George â Thîm NWJCC ar ôl gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi sefydlu Gweithrediaeth y GIG a lansiwyd ar 1 Ebrill 2023, yn ogystal â chynghori ar arweinyddiaeth a goruchwyliaeth Llywodraethu'r GIG yn y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar ar gyfer Prif Swyddog Nyrsio Cymru.
Yn wreiddiol o Swydd Gaerwrangon, daeth George i Gaerdydd ym 1994 i astudio gradd mewn Gwyddorau Anatomegol ac yna daeth Cymru yn gartref iddi. Aeth George ymlaen i wneud gradd Meistr mewn Cyfraith Feddygol cyn ymuno â'r GIG fel Rheolwr Sgrinio'r Fron De Cymru ym 1999 ac astudiodd yn rhan-amser i ennill gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes.
Mae George wedi dal amryw o rolau yn ei gyrfa gyda GIG Cymru gan gynnwys mewn Hawliadau a Phryderon, Cynllunio a Datblygu Corfforaethol. Roedd George yn Gyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre am wyth mlynedd cyn symud i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgan fel eu Cyfarwyddwr Llywodraethu gan arwain gwelliannau mewn Llywodraethu, Hawliadau a Phryderon mewn ymateb i'w statws uwchgyfeirio.
Mae George yn angerddol am welliant a thrawsnewid parhaus ac yn meithrin diwylliant agored a thryloyw i gefnogi ymgysylltu a chydweithio effeithiol.