Prif Gomisiynydd Dros Dro
Huw George yw Prif Gomisiynydd Dros Dro Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru a chyn hynny roedd yn Ddirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Chyllid gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae wedi dal swyddi ar Fyrddau yn y GIG ers 2003 ym Mhowys ac Abertawe. Hyfforddodd Huw fel Cyfrifydd Siartredig a bu’n gweithio yn Llundain, Caerdydd a Brasil. Ymunodd â’r GIG ym 1994 ac mae ganddo brofiad o weithio ym mhob sector o’r GIG a chyda Llywodraeth Cymru ar secondiad.