Neidio i'r prif gynnwy
Nia Roberts

Amdanaf i

Mae Nia yn ymgynghorydd arloesi yn Llandudno, Gogledd Cymru.

Yn wreiddiol o Ynys Môn, graddiodd Nia mewn Ffiseg o Brifysgol Manceinion cyn dod yn Arholwr Patentau yn y Swyddfa Batentau Ewropeaidd yn yr Iseldiroedd. Ar ôl dychwelyd i'r DU, ymunodd ag adran ED cwmni rhyngwladol seiliedig ar wyddoniaeth, gan gymhwyso fel Twrnai Patent y DU ac Ewrop ac yn y pen draw rheoli'r swyddogaeth Eiddo Deallusol. Yna dychwelodd gyda’i theulu i Ogledd Cymru, gan weithio i ddechrau fel ymgynghorydd ED cyn ymuno â Thîm Arloesedd Llywodraeth Cymru. Symudodd i'r Adran Iechyd i weithio ar Fasnacheiddio Eiddo Deallusol yn GIG Cymru a chafodd ei secondio i Brifysgol Abertawe i helpu i sefydlu a gweithio ar brosiect AgorIP. Ei rôl ddiweddaraf yn Llywodraeth Cymru oedd gweithio i gyn Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru fel Pennaeth Ymgysylltu Ymchwil ac Arloesi yn Llundain.

Mae Nia yn Dwrnai Patent Ewropeaidd, yn Ffisegydd Siartredig ac yn Aelod o’r Sefydliad Ffiseg, yn eistedd ar Bwyllgor IoP Cymru. Mae'n eistedd ar Banel Cynghori Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Parc Gwyddoniaeth Menai (M-Sparc). Tan yn ddiweddar, roedd Nia yn aelod o Rwydwaith Cynghori Strategol EPSRC ac mae hi’n Llysgennad STEM balch.