Neidio i'r prif gynnwy
Shameem Nawaz

Aelod Lleyg

Amdanaf i

Aelod Lleyg

Mae Shameem yn angerddol dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, dealltwriaeth o anghydraddoldebau iechyd a sicrhau bod lleisiau pobl sydd â phrofiad bywyd yn ganolog i ddarparu gwasanaethau.

Mae Shameem wedi gweithio ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol am y rhan fwyaf o'i gyrfa gan ddefnyddio ei sgiliau datblygu cymunedol, rheoli prosiectau a rhaglenni i gefnogi pobl i gael mynediad cyfartal at wasanaethau trwy weithio gyda sefydliadau i ddeall anghenion defnyddwyr gwasanaethau yn well ac addasu gwasanaethau i fod yn fwy cynhwysol.

Mae hyn wedi cynnwys:

  • Gweithio gyda phobl sydd mewn perygl o gael eu hallgáu i fyw'r bywyd maen nhw'n ei ddewis, yn bennaf gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, pobl awtistig a'r rhai sydd â salwch meddwl.
  • Cynnwys cleifion Du a Lleiafrifoedd Ethnig, y rhai ag anableddau dysgu a phobl â dementia mewn gwasanaethau gofal lliniarol.

  • Cynnwys cymunedau LHDT+ a theuluoedd Duon a Lleiafrifoedd Ethnig mewn gwasanaethau cyffuriau ac alcohol.

  • Ymchwil ar faethu a mabwysiadu plant Du a Lleiafrifoedd Ethnig

  • Cynnwys pobl ifanc anabl o grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig mewn gwasanaethau seibiannau byr.

 

Mae gan Shameem brofiad hefyd mewn Strategaeth a Datblygu Busnes a Chyfathrebu, ar ôl sefydlu swyddogaeth codi arian lwyddiannus, swyddogaeth gyfathrebu, cynhyrchu incwm sylweddol ar gyfer gwasanaethau newydd ac arloesol yn ogystal ag arwain gwasanaethau ôl-ofal ac adferiad yn y Sector Menywod.

Mae gan Shameem brofiad o fod yn rhan o gyrff llywodraethu yn y sector Addysg fel rhan o'i gwaith gwirfoddol.