Neidio i'r prif gynnwy

Comisiynu er Rhagoriaeth

10 Ebrill 2024
 

Ym mis Mawrth enillodd Tîm Ansawdd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (JCC bellach) Wobr Genedlaethol Profiad Cymreig (WENA) i gydnabod Rhagoriaeth ym Mhrofiad Pobl o Iechyd a Gofal Cymunedol.

Enillodd y Tîm y Wobr Comisiynu er Rhagoriaeth ar ôl cael ei enwebu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Dywedodd y Bwrdd Iechyd fod y Tîm yn haeddu’r wobr gan ddangos eu bod, fel comisiynwyr, wedi cychwyn ar fentrau i wella ansawdd profiadau gofal a bod ymdrechion nodedig wedi’u gwneud i lunio taith y claf ar y cyd.

Trwy gydweithio'n agos â darparwyr gofal iechyd, mae comisiynwyr wedi mabwysiadu dull gweithredu ar y cyd sy'n rhychwantu profiad cyfan y claf.

Mae'r ymdrech hon ar y cyd rhwng comisiynwyr a darparwyr yn arwydd o ymrwymiad i alinio strategaethau, adnoddau ac amcanion, gan sicrhau continwwm gofal di-dor sy'n canolbwyntio ar y claf.

Trwy bwysleisio nodau a rennir ac ymdrechion cydgysylltiedig, nod y mentrau hyn yw optimeiddio ansawdd cyffredinol y ddarpariaeth gofal iechyd a chyfrannu at brofiad mwy cadarnhaol a chydlynol i gleifion trwy gydol eu taith gofal iechyd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Profiad y Claf yn y Bwrdd Iechyd: “Nid yw bod yn gomisiynwyr yn dasg hawdd ond mae’r Tîm yn ymdrin â hi gyda phroffesiynoldeb, caredigrwydd, a’r tosturi mwyaf tuag at y bobl ag anghenion cymhleth a’r staff dan sylw.”