Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Gwasanaeth Trin Canser SABR Newydd yng Ngogledd Cymru

Mae gan gleifion canser yr ysgyfaint yng Ngogledd Cymru fynediad bellach at Radiotherapi Abladol Stereotactig (SABR) uwch yn Ysbyty Glan Clwyd, yn dilyn lansio gwasanaeth newydd y mis hwn. Wedi'i gymeradwyo gan Bwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru (NWJCC), sy'n comisiynu SABR ar gyfer Cymru, mae'r datblygiad hwn yn golygu nad oes angen i gleifion deithio i Lerpwl i gael triniaeth mwyach.

Mae'r gwasanaeth yn dod â gofal arloesol yn agosach at adref, yn gwella mynediad, ac yn dangos ymrwymiad NWJCC i degwch a safonau uchel mewn gofal iechyd ledled Cymru.

Mae SABR yn ffurf hynod dargedig o radiotherapi sy'n darparu ymbelydredd dos uchel, manwl gywir i gelloedd canser wrth arbed meinwe iach o'i gwmpas. Mae'n arbennig o effeithiol ar gyfer trin tiwmorau bach a gall wella cyfraddau goroesi cleifion â chanser yr ysgyfaint.

Cafodd y claf cyntaf, Eileen Gerrity, ei thrin y mis hwn, gan nodi cam ymlaen mewn gofal canser yng Ngogledd Cymru. Bydd y gwasanaeth yn:

  • Darparu mynediad cyfartal i gleifion ledled Cymru, gan alinio Gogledd Cymru â gwasanaethau SABR presennol yn Ysbyty Singleton, Abertawe, a Chanolfan Canser Felindre, Caerdydd.
  • Cefnogi'r galw yn y dyfodol, gan fod disgwyl i sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu gynyddu nifer y cleifion sy'n addas ar gyfer SABR yn y 2-3 blynedd nesaf.
  • Gwella profiad cleifion drwy leihau'r angen i deithio pellter hir ar gyfer hyd at wyth sesiwn driniaeth.

Canmolodd Eileen Gerrity, y claf cyntaf i dderbyn SABR yn YGC, y gofal cyffredinol a gafodd “Mae’r ffaith y gallaf gael y driniaeth hon yn lleol, yn hytrach na theithio i Lerpwl yn wych...

“Rydw i wedi gweld rhai meddygon, nyrsys a radiolegwyr gwych. Pan fyddwch chi'n cyrraedd gyntaf, rydych chi'n cael person penodol y gallwch chi ei ffonio, a byddan nhw'n ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon. Mae hynny'n wych, mae gennych chi'r gefnogaeth honno.”

Dywedodd Melanie Wilkey, Cyfarwyddwr Comisiynu Gwasanaethau Arbenigol “Mae gallu cynnig SABR yn lleol yng Ngogledd Cymru yn gamp sylweddol i wasanaethau canser yng Nghymru, mae’n gwella mynediad, yn cefnogi ecwiti, ac yn darparu canlyniadau gwell i gleifion. Mae’r datblygiad hwn yn cyflawni amcan strategol ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru: cynyddu nifer y darparwyr SABR.

“Cyn 2022, dim ond yng Nghanolfan Ganser Felindre yr oedd triniaeth SABR ar gael. Y flwyddyn honno, daeth BIP Bae Abertawe yn ail ddarparwr, ac mae BIP Betsi Cadwaladr bellach wedi ymuno fel y trydydd. Mae hyn yn golygu bod pob un o'r tair canolfan canser drydyddol yng Nghymru bellach yn darparu SABR.”

Datblygwyd y gwasanaeth trwy gydweithrediad agos rhwng NWJCC, BIP Betsi Cadwaladr, yr Is-bwyllgor Oncoleg Glinigol, ac arweinwyr clinigol SABR o Abertawe a Felindre, a Chanolfan Ganser Clatterbridge yn Lerpwl, a ddarparodd gyngor clinigol arbenigol a chefnogaeth fentora ar gyfer y gwasanaeth newydd.

Bydd NWJCC yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ehangu SABR i drin mwy o gyflyrau yng Ngogledd Cymru, gan sicrhau bod cleifion yn elwa o'r datblygiadau diweddaraf mewn gofal canser.