Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu Adolygiad Gwasanaeth EMRTS 2023

Ymgysylltu Adolygiad Gwasanaeth EMRTS 2023

Mae EASC yn cynnal Adolygiad Gwasanaeth o'r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys sy'n gweithio gydag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru i ddarparu gwasanaeth ambiwlans awyr i boblogaeth Cymru.

Mae EASC wedi cytuno i adolygu sut mae'r gwasanaethau'n cael eu rhedeg ar hyn o bryd i gynyddu nifer y cleifion sy'n derbyn gwasanaeth heb newid canolfannau gweithredol (gallwch ddarllen y cefndir i hyn yn nodiadau cyfarfod ffurfiol EASC o fis Tachwedd 2022 a geir yma ).

Mae Adolygiad Gwasanaeth EMRTS yn cynnwys proses ymgysylltu ffurfiol a phwrpas yr ymgysylltu yw deall barn y cyhoedd, staff a rhanddeiliaid a fydd yn helpu EASC i benderfynu beth i'w wneud nesaf. Mae Cam 2 bellach wedi cau.

Mae rhai Cwestiynau Cyffredin defnyddiol ar gael ar y wefan hon i helpu i roi eglurder ar:

  • Sut mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth;
  • Pam mae angen y broses ymgysylltu; a
  • Manylion ynghylch sut mae'r broses ymgysylltu ffurfiol a'r broses gwneud penderfyniadau yn digwydd.

Mae cyfres o Ddiweddariadau Briffio i Randdeiliaid hefyd ar gael sy'n egluro mwy am gefndir yr Adolygiad.

Cyhoeddir manylion ynghylch sut y gallwch roi adborth yng Nghyfnod 3 ar y wefan hon ond yn y cyfamser, gellir anfon unrhyw ymholiadau am yr Adolygiad Gwasanaeth EMRTS drwy'r ffurflen gyswllt / adborth ar-lein a geir ar dudalen yr Adolygiad Gwasanaeth EMRTS .

Daliwch ati i edrych yn ôl am ddiweddariadau pellach i'r wefan neu os hoffech ymuno â'n rhestr bostio ar gyfer yr ymgysylltiad hwn, anfonwch eich manylion atom drwy e-bost .

Diolch i chi am eich diddordeb parhaus yn yr Adolygiad Gwasanaeth EMRTS.