Mae pobl yng Nghymru sydd â chyflwr colesterol etifeddol prin yn elwa o evinacumab, triniaeth arbenigol newydd i ostwng colesterol i helpu i leihau'r risg o glefyd difrifol y galon, sydd ar gael gan Bwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru (NWJCC).
Mae Hypercholesterolaemia Teuluol Homosygaidd (HoFH) yn gyflwr genetig prin iawn sy'n achosi lefelau uchel iawn o golesterol "drwg" o enedigaeth. Heb driniaeth effeithiol, mae pobl â HoFH mewn perygl uchel o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd difrifol yn ifanc.
Cyn y driniaeth newydd, roedd cleifion eisoes yn derbyn triniaethau safonol i ostwng colesterol. I rai, roedd hyn yn cynnwys afferesis, gweithdrefn ddwys mewn ysbyty a ddefnyddir i gael gwared â cholesterol o'r claf trwy ei hidlo o'r gwaed. Cyflwynwyd evinacumab, ochr yn ochr â thriniaethau safonol, ar gyfer cleifion nad oedd eu lefelau colesterol yn gostwng yn ddigonol er gwaethaf derbyn triniaeth sylfaenol.
Rydym yn falch o allu rhannu canlyniadau cynnar gan gleifion a gafodd driniaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n dangos bod y driniaeth newydd yn darparu manteision clir, gyda chleifion yn profi gostyngiad mewn colesterol o tua 50%, gan helpu i ostwng eu risg hirdymor o glefyd y galon.
I rai cleifion, lleihaodd triniaeth gydag evinacumab yr angen am afferesis. Mewn un achos, hanerwyd amlder y driniaeth, gan helpu i leihau'r aflonyddwch i fywyd bob dydd a lleihau'r baich triniaeth cyffredinol.
Amlygodd adborth gan gleifion a gasglwyd drwy arolwg foddhad cryf gyda'r driniaeth, ochr yn ochr ag adborth defnyddiol ac ymarferol ar feysydd fel hyd apwyntiadau a mynediad gwythiennol. Siaradodd cleifion yn ganmoladwy am y gofal a gawsant, gydag un yn disgrifio'r uned fel un "anhygoel" ac un arall yn nodi bod y driniaeth yn "effeithlon iawn", gyda fawr ddim y gellid ei wella. Mae'r adborth hwn yn cefnogi dysgu parhaus a gwelliannau gwasanaeth yn y dyfodol.
Dywedodd Iolo Doull, Cyfarwyddwr Meddygol yn NWJCC: “Yn aml, mae gan bobl sy’n byw gyda chyflyrau prin opsiynau triniaeth cyfyngedig. Mae comisiynu cenedlaethol yn caniatáu inni ddod ag arbenigedd a thriniaethau arbenigol at ei gilydd er budd cleifion.
“Drwy gomisiynu evinacumab, mae NWJCC wedi ehangu opsiynau triniaeth i bobl â HoFH, gan gynnig cefnogaeth ychwanegol lle nad oedd triniaethau presennol yn ddigonol a helpu i sicrhau canlyniadau gwell i bobl â chyflyrau prin a chymhleth ledled Cymru.”
Yn 2025, cymeradwywyd mynediad at evinacumab drwy gomisiynu cenedlaethol dan arweiniad y NWJCC. Mae'r Pwyllgor yn dwyn ynghyd fyrddau iechyd yng Nghymru i gytuno pa wasanaethau arbenigol sy'n cael eu hariannu'n genedlaethol, gan gefnogi mynediad at ofal arbenigol i bobl â chyflyrau prin neu gymhleth.
Gall cleifion ledled Cymru dderbyn triniaeth mewn canolfannau arbenigol yn Birmingham, Manceinion, ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gan sicrhau mynediad cyfartal lle bynnag y maent yn byw.