Mae Pwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru (PCCGC) wedi arwain datblygiad canllawiau comisiynu newydd ar gyfer gofal hosbis yng Nghymru, yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei harbenigedd i ddod â mwy o eglurder a chysondeb i sut mae gwasanaethau hosbis yn cael eu sicrhau'n genedlaethol.
Mae’r PCCGC wedi chwarae rhan arweinyddiaeth system, gan gydweithio â Llywodraeth Cymru, Rhaglen Genedlaethol Perfformiad a Gwella GIG Cymru ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes, comisiynwyr o Fyrddau Iechyd, darparwyr, a rhaglenni cenedlaethol i ddatblygu’r canllawiau. Mae hyn yn nodi cam pwysig ymlaen wrth nodi egwyddorion comisiynu a rennir, egluro disgwyliadau o ran arfer da, a darparu cyfeiriad ymarferol dros y tymor byr, canolig a hir.
Bwriad gweithredu'r canllawiau yw darparu manteision i'r system gyfan, gan gynnwys:
Mynediad mwy cyfartal at ofal hosbis ar draws ardaloedd Byrddau Iechyd
Disgwyliadau comisiynu cliriach a mwy cyson
Gwell cynaliadwyedd i ddarparwyr drwy gomisiynu tymor hwy, sy'n cael ei arwain gan anghenion
Aliniad cryfach ar draws y system iechyd, gan gadw cyfrifoldeb comisiynu lleol
Sylfaen glir ar gyfer diwygio yn y dyfodol, gan gefnogi symudiad tuag at fodel comisiynu cenedlaethol mwy symlach o fis Ebrill 2027.
Mae hosbisau’n chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes, ond mae mynediad at wasanaethau hosbis a gofal lliniarol arbenigol wedi amrywio’n hanesyddol rhwng cymunedau. Mae’r canllawiau’n darparu sail genedlaethol gyffredin ar gyfer mynd i’r afael â’r amrywiad hwn a chefnogi comisiynu gwasanaethau hosbis yn fwy cyson.
Dywedodd Sue O'Leary, Cyfarwyddwr Comisiynu ar gyfer Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Grwpiau Agored i Niwed yn PCCGC: “Er bod y cyfrifoldeb am ariannu hosbisau yn parhau gyda Byrddau Iechyd a Llywodraeth Cymru, mae'r PCCGC wedi bod yn falch o ddod â phartneriaid ynghyd, ac o rannu arbenigedd comisiynu cenedlaethol i gefnogi datblygiad dull mwy cyson a chyfartal o gomisiynu gofal hosbis ledled Cymru.
“Gan gydweithio’n agos â’r Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes, Byrddau Iechyd a darparwyr hosbis, bydd y canllawiau hyn yn dangos sut y gallai arweinyddiaeth genedlaethol gydlynol leihau amrywiad diangen, egluro disgwyliadau comisiynu a chefnogi comisiynu gwasanaethau hosbis mwy cynaliadwy a hirdymor.”
Ychwanegodd Claire Harding, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Comisiynu Rhaglenni Cenedlaethol yn y PCCGC: “Mae sicrhau gofal hosbis diogel o ansawdd uchel i boblogaeth Cymru yn flaenoriaeth a rennir ar draws y system iechyd. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chomisiynwyr a darparwyr i ddatblygu’r canllawiau hyn.
“Bydd gweithredu amserol yn hanfodol er mwyn i’w gyfleoedd gael eu gwireddu’n llawn, wrth i bartneriaid weithio tuag at ddull mwy cynaliadwy o gomisiynu hosbisau.”
Mae'r canllawiau'n sail i'r canllawiau comisiynu anstatudol newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac yn ategu grant sefydlogi untro o £4.3 miliwn ar gyfer hosbisau plant ac oedolion ar gyfer 2025–26. Er bod y cyllid yn darparu cefnogaeth ariannol uniongyrchol i hosbisau, mae'r canllawiau comisiynu yn nodi'r cyfeiriad tymor hwy ar gyfer sut mae gofal hosbis yn cael ei gomisiynu a'i gefnogi ledled Cymru.
Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, gan gynnwys manylion y grant sefydlogi gwerth £4.3 miliwn a chyhoeddi Dull o Gomisiynu Gofal Hosbis yng Nghymru, ar gael yma.