Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi diweddaru llywio ein gwefan 
Bellach gellir dod o hyd i gyfleoedd ymgysylltu â’r cyhoedd, swyddi gwag a’n hadran newydd Dod yn Ddarparwr o dan Gweithio Gyda Ni.
Yn chwilio am rywbeth arall? Dewiswch Mwy o'r brif ddewislen lywio i gael mynediad at adrannau ac adnoddau ychwanegol.

Ymchwil newydd yn helpu i lunio dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru

Mae dau adroddiad cenedlaethol newydd wedi cael eu cyhoeddi i gefnogi gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar weithgarwch corfforol ac iechyd meddwl, a gwasanaethau iechyd meddwl mewn carchardai yng Nghymru.

Wedi'u datblygu drwy raglen Dyfodol mewn partneriaeth â Phwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru (NWJCC) a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCPsych) Cymru, mae'r adroddiadau'n darparu tystiolaeth ac argymhellion i gefnogi comisiynwyr, darparwyr gwasanaethau a llunwyr polisi wrth wneud penderfyniadau ynghylch dylunio a darparu gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru yn y dyfodol.

Mae rhaglen Dyfodol yn dwyn ynghyd bartneriaid cenedlaethol i ddefnyddio tystiolaeth a mewnwelediad i ddylunio a gwella gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn helpu i gryfhau sut mae gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u darparu, gan sicrhau bod datblygiadau yn y dyfodol yn cael eu llywio gan ymchwil a phrofiad o'r byd go iawn, gyda chanfyddiadau'n cael eu hadrodd yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru.

 

Mae'r adroddiadau'n tynnu sylw at feysydd allweddol i'w datblygu ac yn nodi camau ymarferol i gefnogi dylunio gwasanaethau yn y dyfodol:

  1. Iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau mewn carchardai – yn darparu’r asesiad sylfaenol cenedlaethol cyntaf o wasanaethau ar draws carchardai Cymru, gan nodi arfer da, amrywiad mewn modelau gwasanaeth a chyfleoedd i wella. Bydd y canfyddiadau’n helpu i lywio penderfyniadau comisiynu yn y dyfodol, cryfhau gweithio mewn partneriaeth a chefnogi gofal mwy cyson o ansawdd uchel ar draws ystâd y carchardai.

 

  1. Gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl – mae’n nodi fframwaith cenedlaethol i ymgorffori gweithgarwch corfforol o fewn gwasanaethau iechyd meddwl, gan amlygu ei rôl wrth wella lles a chefnogi adferiad. Mae’n nodi camau gweithredu i ddatblygu dulliau mwy person-ganolog, cymunedol, cryfhau atal ac ymyrraeth gynnar, a gwella mynediad at gymorth i bobl ledled Cymru.

 

Dywedodd Sue O'Leary, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Grwpiau Agored i Niwed yn NWJCC: "Mae'r adroddiadau hyn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i helpu i lunio sut mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu datblygu ledled Cymru. Drwy nodi beth sy'n gweithio'n dda a lle mae angen gwelliannau, maent yn cefnogi dull mwy seiliedig ar dystiolaeth o wella canlyniadau a lleihau amrywiad mewn gofal.

"Drwy raglen Dyfodol, rydym yn gweithio ar y cyd â phartneriaid i ddylunio a gwella gwasanaethau, gan helpu i sicrhau y gall pobl gael mynediad at y gefnogaeth gywir, ar yr amser cywir, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru."

Gyda'i gilydd, mae'r adroddiadau hyn yn dangos sut y gall tystiolaeth a gweithio mewn partneriaeth gefnogi canlyniadau iechyd meddwl gwell. Drwy amlygu cyfleoedd i wella ansawdd a chryfhau mynediad at ofal, maent yn darparu sylfaen gryfach ar gyfer datblygu gwasanaethau yn y dyfodol ac yn helpu i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn derbyn cymorth o ansawdd uchel pan fydd ei angen arnynt.